Sinopsis
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.
Episodios
-
Mwyafrif mawr lot fwy o broblem na mwyafrif bach?
25/06/2025 Duración: 21minGyda dros 120 o Aelodau Seneddol Llafur yn cefnogi ymgais i atal cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri rhai budd-daliadau anabledd a salwch mae Vaughan a Richard yn trafod y rhwyg yn y blaid a'r her ma hwn yn achos i'r Prif Weinidog Keir Starmer. Mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr hefyd yn ymuno a'r ddau i ddadansoddi'r tensiynau o fewn y blaid ac mae'r tri yn trafod sut ma' Llafur a Reform yn mynd ati i ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd blwyddyn nesa'.
-
Yn fyw o Tafwyl
16/06/2025 Duración: 36minMewn pod wedi ei recordio'n fyw o ŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, mae Vaughan a Richard yn trafod os yw Llywodraeth Cymru ar eu hennill wedi adolygiad gwariant y Canghellor, Rachel Reeves. Mae'r ddau hefyd yn trafod sut mae gwleidyddiaeth wedi newid yn ein dinasoedd. A chyfle i'r gynulleidfa holi cwestiynau i Vaughan a Richard.
-
Arian, Arian, Arian - ond faint i Gymru?
11/06/2025 Duración: 24minGyda'r Canghellor Rachel Reeves wedi cyhoeddi ei hadolygiad gwariant i adrannau Llywodraeth y DU - faint o arian newydd sydd i Gymru? Mae gohebydd gwleidyddol y BBC Elliw Gwawr, cyn olygydd gwleidyddol y BBC Betsan Powys a'r cyn Aelod Seneddol, Jonathan Edwards yn dadansoddi'r cyfan gyda Vaughan. Ac a oes gormod o bŵer gan y pleidiau wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd y flwyddyn nesa'?
-
Ffrae o fewn Reform UK, sioc i Lafur, a siom i’r SNP
06/06/2025 Duración: 13minAr ddiwedd wythnos gythryblus arall yn y byd gwleidyddol, Kate Crockett sy’n holi Llyr Powell o Reform UK yn dilyn ymddiswyddiad Zia Yusuf fel cadeirydd y blaid.Ac mae ‘na sioc wleidyddol draw yn yr Alban, wedi i Lafur gipio sedd gan yr SNP mewn isetholiad. Mae’r athro Richard Wyn Jones yn trafod beth all hynny ei olygu i obeithion Llafur Cymru yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
-
Yr ifanc am bleidleisio?
30/05/2025 Duración: 24minFel rhan o'u taith dros yr haf mae Vaughan a Richard wedi bod i Eisteddfod yr Urdd i ddadansoddi perthynas pobl ifanc â gwleidyddiaeth. Mae dau aelod o'r Senedd Ieuenctid, Maisie a Ffion yn ymuno â'r ddau i drafod cyflwyno'r bleidlais i bobl ifanc 16 oed a throsodd a'r pynciau sydd o bwys i'r to ifanc.
-
Brexit yn ôl ar y fwydlen?
21/05/2025 Duración: 20minAr ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cytundeb newydd â'r Undeb Ewropeaidd - ydy'r bartneriaeth ag Ewrop yn ôl ar yr agenda gwleidyddol? Mae Vaughan a Richard yn trafod y polau piniwn diweddara' ac yn ymateb i'r arolwg barn Cymreig arwyddocaol gafodd ei gyhoeddi bythefnos yn ôl. A pham ymddiheurodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer i Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts?
-
Ffordd goch Gymreig?
07/05/2025 Duración: 33minWythnos enfawr o wleidyddiaeth yng Nghymru gydag araith gan Brif Weinidog, Eluned Morgan yn ceisio ymbellhau rhag Keir Starmer a'i lywodraeth. Fe ddaw hwn ar ôl i bôl piniwn newydd roi'r Blaid Lafur yn drydedd ar gyfer etholiadau'r Senedd a Phlaid Cymru yn gyntaf - mae Richard yn dadansoddi'r cyfan. Yn y stiwdio gyda Vaughan, mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr a Desmond Clifford - cyn Prif Ysgrifennydd Preifat i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones a Mark Drakeford yn trafod goblygiadau'r pôl piniwn gyda blwyddyn i fynd cyn etholiad y Senedd.
-
Y Tir Canol
30/04/2025 Duración: 18minYn dilyn llwyddiant y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol Canada, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocad y canlyniad i wleidyddiaeth ar draws y byd. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi yr hyn mae'n ei olygu i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac yn Lloegr.
-
Y Tir Canol
30/04/2025 Duración: 18minYn dilyn llwyddiant y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol Canada, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocad y canlyniad i wleidyddiaeth ar draws y byd. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi yr hyn mae'n ei olygu i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac yn Lloegr.
-
Crefydd a Gwleidyddiaeth yng Nghymru
16/04/2025 Duración: 30minA hithau'n Basg, mae'r cyn ymgeisydd Llafur, Y Parchedig D Ben Rees yn ymuno a Richard a Vaughan i drafod y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth dros y canrifoedd a gofyn beth yw'r berthynas erbyn hyn? Mae Vaughan a Richard hefyd yn dadansoddi pwysigrwydd etholiadau lleol Lloegr mis nesa' a beth fydd goblygiadau'r canlyniadau.
-
Crefydd a Gwleidyddiaeth yng Nghymru
16/04/2025 Duración: 30minA hithau'n Basg, mae'r cyn ymgeisydd Llafur, Y Parchedig D Ben Rees yn ymuno a Richard a Vaughan i drafod y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth dros y canrifoedd a gofyn beth yw'r berthynas erbyn hyn? Mae Vaughan a Richard hefyd yn dadansoddi pwysigrwydd etholiadau lleol Lloegr mis nesa' a beth fydd goblygiadau'r canlyniadau.
-
Datganiad Gwanwyn y Canghellor
26/03/2025 Duración: 21minAr ddiwrnod Datganiad Gwanwyn y Canghellor, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy'n trafod yr anniddigrwydd o fewn rhengoedd y Blaid Lafur a thymor cynadleddau Gwanwyn y pleidiau
-
Cyllideb Cymru a Phwy fydd Ymgeiswyr y Pleidiau?
05/03/2025 Duración: 25minAr ôl i'r Senedd gymeradwyo cyllideb Llywodraeth Cymru mae Elliw Gwawr yn ymuno â Richard a Vaughan i drafod y cyfan. Mae'r tri hefyd yn dadansoddi sut mae'r pleidiau yn mynd ati i ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026 a'r tensiynau all godi ymhlith y pleidiau.
-
Diwygiad ar Droed?
19/02/2025 Duración: 26minGyda'r arolygon barn yn awgrymu y bydd Reform yn mwynhau llwyddiant yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' mae Elliw Gwawr yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod sut all ei apêl newid gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r tri hefyd yn trafod pam fod 10 Aelod o'r grŵp Llafur yn y Bae ddim am sefyll yn etholiad 2026; faint o broblem fydd hynny i'r blaid?
-
Ail ddaergryn ar droed?
29/01/2025 Duración: 23minYr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod gobeithion Plaid Cymru yn Etholiad Senedd 2026. A fydd y blaid yn medru ail-adrodd y llwyddiant a welwyd yn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999 y flwyddyn nesaf?Mae'r Arglwydd Wigley hefyd yn esbonio pam mai arweinydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth fydd Prif Weinidog Cymru ar ôl yr etholiad nesa'.
-
Llafur Caled
15/01/2025 Duración: 26minMae Vaughan a Richard nôl gyda rhifyn cyntaf o'r flwyddyn gan droi eu sylw at y Blaid Lafur. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau i drafod rhybudd un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru, Lee Waters bod ei blaid mewn perygl o dderbyn "cic" yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.Mae'r cyn Aelod Seneddol, Llafur Jon Owen Jones hefyd ar y pod i drafod y berthynas rhwng Llafur San Steffan a Llafur Cymru. Oes angen i Eluned Morgan dorri cwys ei hun ac ymbellhau oddi wrth Keir Starmer?
-
Golwg ar y Flwyddyn Wleidyddol
18/12/2024 Duración: 01h49sYn ymuno â Vaughan a Richard ym mhennod ola'r flwyddyn mae'r cyn Prif Weinidog Carwyn Jones, aelod Ceidwadol dros Dde Orllewin yn Senedd Cymru, Tom Giffard a Nerys Evans o gwmni materion cyhoeddus Deryn sydd hefyd yn gyn aelod Cynulliad Plaid Cymru.Digwyddiadau y flwyddyn a fu ym Mae Caerdydd fydd dan sylw gan gynnwys ymddiswyddiad Vaughan Gething, etholiad cyffredinol 2024 ac mae'r pump hefyd yn ceisio gan ddarogan beth fydd ar yr agenda gwleidyddol yn y misoedd i ddod.
-
Ta Ta RT
04/12/2024 Duración: 30minAr ôl i Andrew RT Davies ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r heriau i'r blaid ac yn gofyn pwy sy'n debygol o'i olynu. Mae Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol Golwg 360 yn y Senedd yn ymuno i drafod sut all Llywodraeth Cymru pasio ei gyllideb wythnos nesa'. Ac ar ôl i arolwg barn newydd osod Plaid Cymru ar y blaen am y tro cyntaf ers 2010, Llafur a Reform yn gydradd ail a'r Ceidwadwyr yn bedwerydd. Beth all hyn olygu i'r pleidiau?
-
Pwy ydyn ni? A sut mae'n effeithio ar ein pleidlais?
27/11/2024 Duración: 22minSut mae ein hunaniaeth yn effeithio ar y ffordd 'da ni'n mynd ati i bleidleisio? Dyna sy'n cael sylw Vaughan a Richard yn y bennod ddiweddara. Mae'r ddau yn trafod sut mae patrymau pleidleisio wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf.Hefyd, trafod llyfr Richard sy'n astudio meddylfryd gwleidyddol Plaid Cymru o 1925 i 1997.
-
Trump yn y Tŷ Gwyn ac effaith y gyllideb ar Gymru
06/11/2024 Duración: 28minBethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod buddugoliaeth Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol yn America. Wythnos wedi'r gyllideb mae Guto Ifan hefyd yn ymuno i drafod goblygiadau cyhoeddiad Rachel Reeves ar Gymru. Ac ar ôl i Kemi Badenoch gael ei hethol yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr, mae'r ddau yn trafod yr heriau i'r blaid ar lefel Brydeinig ac yma yng Nghymru.